Ymunwch â’n rhestr ebost
 hafan 
 newyddion 
 beth ydi trac
      pwy ydy pwy
 dawnsio
 cerddorion
 chwedleuwyr
 cylchgrawn ontrac
 yr arbrawf mawr
 datganiad gregynog
 gwneuthurwyr offerynnau
 sesiynau / canu
 clybiau gwerin
 gwyliau
 dolenni
 
 english 
 trac
 Blwch Post 428, 
 Caerdydd,  CF11 1DP
 trac@trac-cymru.org
 029 20 318863
 07811 955 592
 

 

newyddion  

Ar eisiau: Ymddiriedolwr ag arbenigedd ariannol

Mae trac yn chwilio am Ymddiriedolwr ag arbenigedd ariannol i’w benodi / phenodi i’w Bwrdd.

Y Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n goruchwylio gwaith y cwmni a chefnogi ffocws ein busnes a’n hymrwymiad i gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwr gydag arbenigedd ariannol a brwdfrydedd am y celfyddydau ac anghenion ein sector.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Awst 2009.

Cysylltwch â
Am ragor y wybodaeth a manylion ynghylch sut i ymgeisio, cysylltwch os gwelwch yn dda â Blanche Rowen ar 02920 398861 neu trac@trac-cymru.org


Ymunwch â gwasanaeth newyddion ebost trac

Ydych chi`n derbyn newyddion e-bost o trac? Os ydych yn colli allan, cliciwch ar y ddolen `Ymunwch a`r restr ebost` (ar ben y dudalen, ary dde) i ymuno â`n e-grwp i gael newyddion am ddigwyddiadau gwerin ar hyd a lled Cymru.


Nodiadau cynhadledd Cerddoriaeth Draddodiadol CCC

Dyma nodiadau y gynhadledd undydd arloesol a gynhaliwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a trac. Mae’r ddogfen, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn cynnwys cyfraniadau oddiwrth David Francis o Fforwm Cerddoriaeth Draddodiadol yr Alban, Paul Flynn o Gelfyddydau Gogledd Iwerddon, Siân Thomas o trac, yn ogystal â throsolwg o drafodaethau’r diwrnod gan Einion Dafydd o Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cysylltwch â
Gallwch lawrlwytho eich copi yma mewn ffurf PDF. Croeso i chi anfon eich meddyliau ar y pwnc at swyddfa trac ar trac@trac-cymru.org
Mae`r fersiwn Saesneg ar gael gan dewis `Saesneg` o`r rhestr ar y chwith a mynd at ochr Saesneg y wefan.

download file (230k)

Ymchwilio hen lawysgrifau

Yn ystod yr Hydref yn 2008, ar wahoddiad Canolfan Mileniwm Cymru, cynhaliodd trac fforwm ryngwladol, ar y thema ‘darganfod trysorau cerdd cudd’.

Soniodd Cass Meurig am yr her o droi llawysgrif aneglur, casgliad 18fed-ganrif John Thomas o ddarnau ffidl, yn alaw-lyfr ac adnodd defnyddiol i ffidlwyr cyfoes, gan oleuo’i darlith gyda esiamplau o gerddoriaeth ar y ffidl a’r crwth.

Daeth Loeiz er Braz draw o Lydaw, lle y mae’n ysgrifennydd cenedlaethol Dastum (mudiad datblygu cerddoriaeth werin Llydaw) ac yn gadeirydd ar Dastum Bro Ereg, ei Dastum rhanbarthol. Yn gasglwr, canwr a phibydd, rhoddodd Loeiz trosolwg cynhwysfawr i ni o draddodiadau Llydaw, ac o’r gwaith y mae Dastum wedi’i wneud i’w cadw a’u hyrwyddo dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.

Mae Mike O’Connor (i`r chwith) yn un o hoelion wyth cerddoriaeth Cernyw, ac yn adnabyddus fel ymchwilydd, cyhoeddwr a pherfformiwr. Roedd ganddo llawer o gyngor ymarferol i’r rhai sy’n hela trysor cerddorol. Tra’n chwilio am ffynonellau coll, mae wedi darganfod casgliadau anhysbys mewn llyfrgelloedd lleol ac mewn plastai. Adroddodd hanes llawysgrif alawon a ymddangosodd mewn ffair sborion, llawysgrif gwbl anhysbys o alaw-lyfr ffidlwr yn dyddio o 1808. Roedd o arwyddocad mawr yn lleol, yn gerddorol ac yng nghyd-destun hanes cymdeithasol. Ewch allan i chwilio dwedodd; mae ‘na lawysgrifau yn aros i gael eu darganfod. Cewch ddarllen testun cyfan ei ddarlith gan glicio ar y ddolen isod.

download file (249k)

Oes ganddoch chi eitem yr hoffech ei gweld yma? Cysylltwch â swyddfa trac – mae’r cyfeiriad ebost ar y chwith.


newyddion | beth ydi trac | dawnsio | cerddorion | chwedleuwyr | cylchgrawn ontrac
  yr arbrawf mawr | datganiad gregynog | sesiynau / canu | clybiau gwerin | gwyliau | cysylltiadau

Powered by WebRing.

© trac 2008