hafan 
 newyddion 
 beth ydi trac
      pwy ydy pwy
      polisïau
 dawnsio
 cerddorion
 chwedleuwyr
 cylchgrawn ontrac
 yr arbrawf mawr
 datganiad gregynog
 gwneuthurwyr offerynnau
 sesiynau / canu
 clybiau gwerin
 gwyliau
 dolenni
 
 english 
 trac
 Blwch Post 428, 
 Caerdydd,  CF11 1DP
 trac@trac-cymru.org
 029 20 318863
 07811 955 592
 

 

datganiad gregynog  

Pasiwyd y datganiad hwn yn unfrydol mewn cynhadledd traddodiadau gwerin wedi ei threfnu gan trac yng Ngregynog, Powys, 8 Chwefror 2003. Ydych chi'n cytuno â'r datganiad? Os hynny, anfonwch air atom ar trac@trac-cymru.org : enw, cyfeiriad a pha gorff/mudiad yr ydych yn eu cynrychioli (os o gwbl).

Mae'r gynhadledd hon yn cydnabod bod dawnsio, canu, cerdd dant, chwedleua a chwarae cerddoriaeth yn rhan o'n genedigaeth-fraint, ac yn galw ar asiantaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau fod y cyfleoedd i wneud hynny yn cael eu hannog yn hytrach na'u herydu ymhellach.

Credwn bod y gwerthoedd sydd ymhlyg yn ein dulliau traddodiadol o fynegiant yn ein clymu wrth ein gilydd, ac mai'r her ar gyfer y dyfodol yw adnewyddu ein dulliau mynegiant mewn modd sy'n boddhau'r genhedlaeth sy'n codi ac yn anrhydeddu'r rhai blaenorol.

Mae'r gynhadledd yn galw ar Lywodraeth San Steffan, Llywodraeth Cynulliad Cymru a phob corff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad:

  • i barchu ein hadnoddau diwylliannol naturiol a'r rhan y gallant ac y dylent eu chwarae yn adnewyddiad economaidd a chymdeithasol Cymru, yn enwedig yn y Gymru wledig;
  • i brofi pob polisi o safbwynt ei berthnasedd i'n dyhead o lwyr adfeddiannu ein genedigaeth-fraint ddiwylliannol;
  • i gefnogi darpariaeth llefydd lle y gellir mwynhau diwylliant traddodiadol heb lyffetheiriau gormodol;
  • i gefnogi ymreolaeth pob grwp sy'n ymhel â'r diwylliant traddodiadol;
  • i annog mentrau fydd yn golygu fod ein dulliau traddodiadol o fynegiant ar gael i holl bobl Cymru.

Mae'r celfyddydau traddodiadol yn allweddol o ran clymu cymdeithas at ei gilydd ac yn fynegiant o hanes, iaith, diwylliant a ffordd o fyw arbennig Cymru. Llais y gymuned ydyn nhw. Mae'n rhaid i Gymru sicrhau fod y llais hwnnw'n cael ei glywed.

 

CYTUNAF A DATGANIAD GREGYNOG

enw
cyfeiriad
ffôn
ebost (angenrheidiol)
sylwadau
Ychwanegwch fy enw at eich basdata er mwyn derbyn gwybodaeth gyson a'r cylchgrawn

newyddion | beth ydi trac | dawnsio | cerddorion | chwedleuwyr | cylchgrawn ontrac
  yr arbrawf mawr | datganiad gregynog | sesiynau / canu | clybiau gwerin | gwyliau | cysylltiadau

Powered by WebRing.

© trac 2010