hafan 
 newyddion 
 beth ydi trac
      pwy ydy pwy
      polisïau
 dawnsio
 cerddorion
 chwedleuwyr
 cylchgrawn ontrac
 yr arbrawf mawr
 datganiad gregynog
 gwneuthurwyr offerynnau
 sesiynau / canu
 clybiau gwerin
 gwyliau
 dolenni
 
 english 
 trac
 Blwch Post 428, 
 Caerdydd,  CF11 1DP
 trac@trac-cymru.org
 029 20 318863
 07811 955 592
 

 

clybiau gwerin  

Clwb Gwerin Dyffryn Aman

Mae Clwb Gwerin Dyffryn Aman yn cwrdd pob nos Fercher am 8.30 yn y Farmers Arms, Penygroes, Rhydaman. Croeso cynnes i bawb.

Cysylltwch â
Cysylltwch â Siwla ar 01269 832323 am fwy o wybodaeth


Tafarn y Blue Bell, Halkyn, G-Dd Cymru

Mae’n bleser mawr gan Andy Hickie a Neal Thompson o Mountain Music gyhoeddi bod clwb gwerin traddodiadol newydd sbon yn cael ei gynnal ar ail ddydd Iau bob mis yn Nhafarn y Blue Bell yn Halkyn. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.

Ffurf boblogaidd ar ganeuon sy’ wedi cael eu trosglwyddo o law i law dros y canrifoedd yw’r Gerddoriaeth Werin ‘dyn ni’n gyfarwydd ag ef. Mae’r caneuon gwreiddiol yn deillio o ganu unigol neu gymunedol, pibau, ffidl, chwiban a drymiau. Mae llawer o gerddorion yn dal i arddel y math yma o gerddoriaeth werin gan ddefnyddio’r hen ganeuon ac offerynnau, ac archwilio i’r hanes gymunedol ac i’r storiau a elwir yn ‘gerddoriaeth draddodiadol’
Diolch i Woven Wheat Whispers am y diffiniad hwn.

Er nad oes rheol bendant, mae cerddoriaeth werin yn Nafarn y Blue Bell yn dilyn y patrwm uchod yn gyffredinol, ac yn ffocysu’n bennaf ar ganu gwerin Celtaidd/Prydeinig.

Cysylltwch â
Steve@BlueBell.uk.eu.org
Maps to find us, what`s on and other information can be got from www.BlueBell.uk.eu.org


Caerdydd: JimJam

Jim says `I`ve been running successful live music open sessions in Cardiff for over 10 years. I`m now running two sessions a week, one of these being aimed at acoustic bands and performers.

I provide a good quality PA system with monitors and take time to provide performers with a quality sound.

My own band ‘The JimJam Band’ plays a mix of acoustic rock and folk and acts as the house band at the session, being able to back other performers if needed. The band provides a full back line of bass, drums, acoustic guitars and amps for others to use.

Venue Details

Every Wednesday

The Promised Land (previously the Swell Bar)

4 Windsor Place, Cardiff CF10 3BX (1st right off Queen Street from Newport Rd)

with The JimJamBand : Free entry 8.30 till 11.45

Cysylltwch â
see www.thejimjam.co.uk for further details
tel 02920 418741
email thejimjam@ntlworld.com


Clwb Gwerin Conwy

Mae Clwb Gwerin Conwy wedi symud i Glwb y Lleng Brydeinig, Conwy.
Mae’r Clwb yn dal i gwrdd ar nos Lun, gyda’r gerddoriaeth yn dechrau tua 8.30 yh

Mae Clwb y Lleng Brydinig yn union drws nesaf i’n hen leoliad, sef tafarn y Malt Loaf. Mae digon o le i barcio ac mae`n gyferbyn â`r brif orsaf.

Ar hyn o bryd, does dim tâl mynediad ar nosweithiau`r clwb, ond rydym yn eich annog i brynu tocynnau raffl.

‘Rydym ni wrthi’n trefnu nosweithiau cantorion gwadd at y dyfodol; edrychwch ar ein wefan am fwy o fanylion.

Ein prif nod yw gynnig man cyfeillgar lle y gall pobl gwrdd i berfformio, ac i wrando ar gerddoriaeth Werin/Acwstig yng Nghonwy.

Cysylltwch â
Alison Shaw,
Secretary,
Conwy Folk Club,
secretary@conwyfolkclub.org.uk

www.conwyfolkclub.org.uk


Clwb Gwerin Crymlyn

Sefydlwyd Clwb Gwerin Penybont yng Nghrymlyn gan Ian Day yn Nhafarn Penybont, Teras Kennard, Crymlyn, De Cymru, yn ystod yr hydref, 2006. ‘Dyn ni’n cwrdd bob trydydd nos Iau y mis o tua 8.30 yh ymlaen. Mae’r noson ar ffurf sesiwn meic agored a gall ymwelwyr sydd am chwarae fwcio amser gydag Ian ar ddechrau’r noson. Bydd y slotiau yma hyd at 20 munud o hyd. Am ragor o fanylion, cysylltwch ag Ian Day yn ianday@daysongs.fsnet.co.uk neu ffoniwch 01495 240431. Nid yw’r clwb yn bwcio artistiaid ar hyn o bryd, ond efallai y bydd yn y dyfodol.

Cysylltwch â
Ian Day 01495 240431
ian@ianday.orangehome.co.uk
www.myspace.com/crumlinfolkclub


Clwb Gwerin Abergwaun

Dewch i’r Royal Oak, Y Sgwâr, Abergwaun, bob nos Fawrth am sesiwn fywiog o gerddoriaeth, canu ac efallai hyd yn oed ambell i stori a dawnsio.

Cysylltwch â
Gary Jones 01348 840181
Bryan on 01348 875183
01348 872514 (Royal Oak)


Gwyr: Halfpenny Folk Club

Rydyn ni`n cwrdd pob nos Sul am 8.30 yn nhafarn y Greyhound, Llanrhidian, Gwyr. Nosweithiau gwadd unwaith yn y mis, a nosweithiau agored ar y leill. Croeso i bawb.

Cysylltwch â
joy.toole@halfpennyfolkclub.com
Joy Toole,Blue Anchor Cottage,Blue Anchor,Penclawdd,Swansea SA4 3JQ
01792 850803
www.halfpennyfolkclub.com


gwerinABERfolk

Mae gwerinABERfolk yn cynnal sesiynau acwstig agored bob nos Fawrth o 8.30 yh lawr y grisiau yn Y Bae, Glan y Mor, Aberystwyth, yn agored i bawb sy’ am ddod i ganu, chwarae neu wrando. Fel arfer mae ystod eang o gerddoriaeth i’w glywed, o ganeuon gwerin traddodiadaol i ddeunydd cyfoes a chaneuon gwreiddiol. Mae’r sesiynau yma’n cynnig cyfle gwych i gerddorion a chantorion amatur i berfformio a rhannu eu cerddoriaeth gydag eraill. Mae hefyd yn ffordd dda iawn i gwrdd â phobl eraill sydd â diddordebau tebyg, ac y mae hyn wedi arwain at ffurfio nifer fawr o ddeuawdau a grwpiau dros y blynyddoedd y mae’r sesiynau wedi bod mewn bodolaeth.Mae llawn cymaint o groeso i’r gwrandawyr a sydd i’r rhai sy’n cyfrannu’n gerddorol, ac ar gyfartaledd, mae nifer y bobl yn y gynulleidfa a nifer y perfformwyr yn weddol gyfartal. Mae’r sesiynau’n denu ystod eang o bobl gan gynnwys bobl lleol, myfyrwyr, bobl ar eu gwyliau ac ymwelwyr o dramor, gyda’r oedrannau’n amrywio o rai yn eu harddegau hyd at bensiynwyr. Mae’r awyrgylch yn un gyfeillgar, gyda chroeso cynnes i newydd-ddyfodiaid.

Cysylltwch â
Ian Gulley -
iig@aber.ac.uk
(01970) 622601/890321.


Caergybi: Clybod - Canolfan Ucheldre

`Llwyfan` distaw i berfformio a gwrando (h.y. nid sesiwn) ar gyfar unrhyw allu, ac unrhyw fath o gerddoriaeth sydd ddim angen trydan. Dweud y gwir, fysa ni`n gallu gwneud hefo mwy o stwff `gwerin`! Mwy o wybodaeth yn fan hyn: www.rhwng.com a dilyn y linc `Clybod`.

Cysylltwch â
Gorwel
clybod@rhwng.com


Clwb Gitar Acwstig Islwyn

Sefydlwyd Clwb Gitar Acwstig Islwyn yn Ionawr 2002, a dyma unig leoliad Cymru sy’n arbenigo yn y gitar acwstig. Er gwaetha’r ffocws ar y gitar, mae’r clwb yn cynnal digwyddiadau amrywiol – gitar ar ei ben ei hun, canwyr/ cyfansoddwyr, deuawdau neu driawdau traddodiadol o Gymru neu dramor, ac o bryd i’w gilydd, datganiadau Chapman Stick neu gitar bas.

Fel arfer, mae’r clwb yn cwrdd unwaith y mis, ar y trydydd dydd Gwener, yng Ngwesty’r Crosskeys yn Crosskeys i’r gogledd o Gasnewydd, De Cymru. Ambell waith fydd y clwb yn cwrdd ym mannau eraill e.e. Stiwt y Glowyr yn y Coed Duon, Clwb Rygbi Risca neu Neuadd Goffa Trecelyn, ar ddiwrnodau eraill o’r wythnos, i gynnal cyngherddau gydag artistiaid mwy enwog yn perfformio.

Cysylltwch â
Edrychwch ar y wefan: www.geocities.com/jenks436/islwynagc.html i weld manylion llawn ein digwyddiadau. Neu cysylltwch â Rob Southall ar 01495 270078 neu ebostio islwynacoustic@fsmail.net


Llanfyllin - Clwb Gwerin y Tloty

Dewch i Dloty Llanfyllin ar 3ydd Nos Wener y mis, gan ddechrau ar Fedi’r 8fed, i brofi cymysgedd o sesiynau traddodiadol, dosbarthiadau dawnsio a bandiau byw. Bydd pob noson yn wahanol ac yn chwa o awyr iach. Bydd band yn dechrau pob noson am 8yh, ac yn arwain sesiwn agored wedi eu perfformiad. Am fwy o wybodaeth am y nosweithiau unigol ewch i’n gwefan os gwelwch yn dda.

Cysylltwch â
Tloty Llanfyllin, Llanfyllin, Powys
01691 649062
info@llanfyllinworkhouse.org www.llanfyllinworkhouse.org


Clwb Gwerin Llantrisant

Pob nos Fercher am 8.30 yng Ngwesty`r Windsor, Heol Llantrisant, Pontyclun CF72 9DQ

Nosweithiau gwadd: £5, £3 i aelodau
Ar bob nos Fercher arall cynhelir Noson Cân a Cherdd, croeso i bawb, £1.50

Cysylltwch â
www.folkwales.org.uk
folkclub@folkwales.org.uk
01443 226892 / 07989 209824


Magwyr: Gwerin yn nhafarn y Llew Aur

We have recently taken over The Golden Lion and are keen to establish a folk music connection in the local area. We have a regular jamming session on a Thursday night, with all welcome to join in (we had about 20 musicians all taking part last week which was quite amazing). We also host live folk/ceilidh music every Sunday night 8.30-10.30. Crimes Against Folk play here on the 1st sunday of each month and other acts we have had include Rarebits, Cats Claw, Dai Bach Band.

We are also planning a mini weekend folk festival in July.

Cysylltwch â
Julie Dawson
The Golden Lion
Magor
Monmouthshire
NP26 3HY
01633 880312
www.thegoldenlionmagor.co.uk


Clwb Gwerin Casnewydd

‘Dyn ni’n cwrdd yn Nhafarn y Lyceum, 110 Heol Malpas, Casnewydd, beth bynnag yw’r tywydd. Mae croeso cynnes i bawb i’n cyfarfodydd bob nos Fawrth am 8.45 yh. Dewch draw i ganu cân neu ddwy – i darllen barddoniaeth – i chwarae alaw ar eich dewis offeryn – yn dda, yn wael neu’n weddol, byddwn ni’n ei fwynhau, felly peidiwch bod ag ofn ymuno â ni.
Perfformwyr gwadd bob pythefnos yn rheoliadd.

Cysylltwch â
www.newportfolkclub.co.uk
Terry Parsons 01633 897923


Offa Events

Rydym yn trefnu cyngherddau cerddoriaeth traddodiadol, yn bennaf cerddoriaeth y wledydd Geltaidd - yn nhafarn y Last Inn, Hengoed, ger Croesoswallt. Croeso i bawb.Cysylltwch â ni i gael y rhaglen cyfoes ac/neu i ymuno â`n rhestr ebost

Cysylltwch â
offaevents@aol.com
Dave Andrews 01691 650293


Clwb Cerddoriaeth Acwstig Pontardawe

Rydyn ni`n cwrdd pob nos Fercher yn Y Gwachel/Pontardawe Inn, Stryd Herbert, Pontardawe, ger Abertawe. Mae sesiwn pob wythnos, gyda perfformwyr gwadd pob mis a nosweithiau lwyfan agored o bryd i`w gilydd. Croeso i bawb.

Cysylltwch â
www.pontyacoustic.org.uk
info@pontyacoustic.org.uk
Hywel Roberts 01792 865087


Clwb Gwerin Pontardawe

Mae`r clwb yn cwrdd yng ngwesty`r Ivy Bush am 8.30, pob pythefnos ar nos Wener. Nos Wener cyntaf yn y mis yw noson agored, mae croeso i bawb i ganu, chwarae neu gwrando. Trydydd Nos Wener yn y mis yw noson wadd, mynediad £5 yn arferol.

Cysylltwch â
www.pontardawefolkclub.co.uk
cas@pontardawefolkclub.co.uk
huwpudner@ntlworld.com


Clwb Acwstig Pontypridd

Mae’r clwb acwstig yn cwrdd ar bob nos Fercher olaf yn y mis am 8.30 yn y Globetrotters Bar, Stryd y Bont, Pontypridd CF37 4PE 01443 407744
Tu hwnt i`r Llanover Arms.
Lle braf i berfformio a gwrando

Cysylltwch â
Richard Reast
richardreast@yahoo.co.uk


Clwb Gwerin y Rhyl

Pob nos Wener am 8.30 yng Nglwb y RAFA, Stryd Windsor, Rhyl LL18 1BW

Cysylltwch â
www.rhylfolkclub.org.uk


Clwb Gwerin Rhymni, Caerdydd

Mae Clwb Gwerin Rhymni’n cwrdd unwaith y mis yn neuadd eglwys St. Augustine, Rhodfa Whitehall, Caerdydd. Yma, mae pawb yn mwynhau gwledd o gerddoriaeth werin/acwstig amrywiol, ac mae croeso i gerddorion berfformio, waeth beth yw eu gallu cerddorol neu oedran.

Maen nhw’n dweud bod yr awyrgylch, gyda’i olau cannwyll, gyda’r gorau sydd i’w gael ar y cylch gwerin yn Ne Cymru. Pan fyddwch yn cyfuno hwnnw gyda cherddoriaeth wych a bar trwyddedig, dyma’r man gorau i fod pan ddaw’r wythnos i ben.

Pris arferol y tocynnau yw £3.50 (cerddorion am ddim). Mae’r cyfarfodydd hefyd yn cynnwys raffl (mae rhoddion tuag at yr achos hwn yn dderbyniol iawn). Bydd unrhyw elw o’r digwyddiad yn mynd tuag at Gronfa Adnewyddu Eglwys St. Augustine.

Os hoffech chi chwarae, cysylltwch â ni trwy e-bost.

Cysylltwch â
enquiries@rumneyfolkclub.co.uk

www.rumneyfolkclub.co.uk


Ruthin Allstyles Music Club

‘Cerddoriaeth fyw ynghanol Gogledd Cymru’
Os ‘dych chi’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth fyw mewn awyrgylch glyd, dewch i ymuno â ni unrhyw nos Iau yn y Castle Hotel, St Peters Square, Ruthin. Bydd croeso cynnes iawn i chi naill ai fel perfformiwr neu aelod o’r gynulleidfa…….. does dim rhaid i chi chwarae offeryn neu i ganu! Mae lle yma i bob math o gerddoriaeth, o ganu gwerin i’r felan, o’r Celtaidd i ganeuon o’r siartiau.

Unwaith y mis bydd perfformwyr gwadd yn ymuno â’n cerddorion arferol. Ar y nosweithiau hyn bydd cost mynediad yn amrywio o £4.00 - £8.00, yn ddibynnol ar ba artist sy’n ymddangos.

Cysylltwch â
www.ruthinallstylesmusic.com


Oes ganddoch chi eitem yr hoffech ei gweld yma? Cysylltwch â swyddfa trac – mae’r cyfeiriad ebost ar y chwith.


newyddion | beth ydi trac | dawnsio | cerddorion | chwedleuwyr | cylchgrawn ontrac
  yr arbrawf mawr | datganiad gregynog | sesiynau / canu | clybiau gwerin | gwyliau | cysylltiadau

Powered by WebRing.

© trac 2010