hafan 
 newyddion 
 beth ydi trac
      pwy ydy pwy
      polisïau
 dawnsio
 cerddorion
 chwedleuwyr
 cylchgrawn ontrac
 yr arbrawf mawr
 datganiad gregynog
 gwneuthurwyr offerynnau
 sesiynau / canu
 clybiau gwerin
 gwyliau
 dolenni
 
 english 
 trac
 Blwch Post 428, 
 Caerdydd,  CF11 1DP
 trac@trac-cymru.org
 029 20 318863
 07811 955 592
 

 

Yr Arbrawf Mawr  

Eich barnau ar BEAM 2008 ...

“Rhywbeth at dant pawb ... Safon y tiwtoriaid – gwych!”

“Braf cael 3 noson i ddod i nabod pobl yn well yn ogystal â mwy o amser yn y gweithdai” ...

“Ardderchog – a chant a mil o ddiolch!! `

Yr Arbrawf Mawr 2010

Mae’r Arbrawf Mawr yn ôl, gyda rhagor o weithdai, alawon, caneuon, sesiynau, tiwtorialau … tri diwrnod o gerddoriaeth
yng nghwmni rhai o diwtoriaid gorau’r maes. Bydd dosbarth grŵp bob bore, gweithdai bob prynhawn, sgyrsiau, sesiynau a digon o amser i greu cerddoriaeth gyda’n gilydd.

Ble a phryd?
Canolfan y Conwy, Sir Fôn, o 22 tan 25 Hydref.

Bydd yr Arbrawf Mawr yn cychwyn ar y nos Wener (Hydref 22), pan fydd ein tiwtoriaid yn esbonio’r gwaith y byddant yn ei wneud; bydd y cwrs ‘go-iawn’ yn dechrau ar ôl brecwast ddydd Sadwrn.

Yn y bore ...
Offerynnwr?
Byddwch yn ffocysu ar chwarae mewn ensemble offerynnau cymysg, dysgu ar y glust, ehangu eich repertoire a datblygu’ch techneg. Bydd gwahanol grwpiau i siwtio gwahanol lefelau gallu, yn amrywio o lefel y ‘sesiwn araf’ hyd at y cerddor o safon uwch.

Canwr?
Byddwch yn dysgu ac yn arbrofi gyda chaneuon traddodiadol Cymraeg, yn ogystal â mynychu gweithdai harmoni a datblygu’r llais. Bydd ddosbarthiadau i Gymry Cymraeg ac i’r rhai ohonoch sy’ newydd i’r iaith.

Yn y prynhawn ...
Bob prynhawn byddwn yn cynnig ystod o weithgareddau dewisol; darlithiau, gweithdai offerynnol, ymarfer mewn grwpiau bach, syniadau da i wneud â pherfformio, sgiliau technegol.

Gyda’r nos ...
Bydd cymysgedd o sesiynau, o’r araf i’r datblygedig, yn ogystal â chorneli tawel ar gyfer gweithgareddau penodol, a Noson Lawen i’r rhai sydd am berfformio.

Bydd fanylion gostau ar gael yn fuan.

newyddion | beth ydi trac | dawnsio | cerddorion | chwedleuwyr | cylchgrawn ontrac
  yr arbrawf mawr | datganiad gregynog | sesiynau / canu | clybiau gwerin | gwyliau | cysylltiadau

Powered by WebRing.

© trac 2010