A+ R A-

About trac

Environmental Policy


trac: Polisi Amgylcheddol


1.  Cyflwyniad

1.1    Anogir holl staff trac i ystyried materion amgylcheddol wrth fynd o gwmpas eu gwaith beunyddiol.

1.2    Mae gwaith trac wedi’i rannu rhwng gwaith datblygu a leolir yn y swyddfa a gwaith datblygu a leolir yn y gymuned. ‘Rydym felly wedi dod i’r casgliad taw yr hyn sy’n amgylcheddol bwysig i ni yw’r egni ‘rydym yn ei ddefnyddio, a gofynion teithio a chludiant y mudiad.


2. Defnyddio ynni'n effeithlon

2.1    Er mwyn defnyddio ynni'n fwy effeithlon bydd ein holl staff yn cael eu hannog i feithrin ffyrdd o arbed ynni, megis diffodd goleuadau di-angen, a’r defnydd synhwyrol o wresogi ac awyru. Pan na fyddant yn cael eu defnyddio, bydd cyfrifiaduron a monitorau yn cael eu gosod yn y modd segur.


3.  Deunyddiau

3.1    Mewn ymgais i arbed adnoddau naturiol, byddwn yn sicrhau bod staff trac yn ymwybodol o’r angen i leihau ein defnydd o bapur ac yn cael eu hannog i ddefnyddio papur mewn ffordd gall, trwy er enghraifft, ddefyddio dwy ochr y papur pan yn agraffu neu’n llungopïo, ail-ddefnyddio papur sgrap a datblygu system di-bapur ar gyfer negeseuon a phost mewnol.

3.2    Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ail-gylchu cymaint â phosib o’n deunyddiau gwastraff. Mae papur naill yn cael ei ail-ddefnyddio neu ei ail-gylchu ac mae cetris peiriant argraffu yn cael eu storio ar gyfer eu casglu a’i hail-gylchu lle bo hynny’n bosibl. Mae gwastraff cyffredinol yn cael ei gasglu gan y Cyngor Sir lleol ac yn cael ei gludo i safle tirlenwi; byddwn yn cadw llygad ar ein gwastraff cyffredinol ac yn ceisio ei leihau.


4. Teithio

4.1    Bydd trac yn annog ei holl staff i deithio mewn ffordd gyfrifol. Anogwn rhannu ceir ar bob cyfle posibl yn fewnol o fewn y mudiad ac yn allanol gyda’n partneriaid.

4.2    Bydd y mwyafrif o’n cyfarfodydd staff a chanran sylweddol o gyfarfodydd yr Ymddiredolwyr yn cael eu cynnal trwy gyfrwng VOIP (Protocol Llais dros y Rhyngrwyd) er mwyn lleihau’r defnydd o geir.

Adolygwyd a chytunwyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr trac ar
4 Gorffennaf 2010.

ontrac30webcover

 

trac

 

 

 

 

 


folk development for wales            datblygu traddodiadau gwerin

Arts Council for Wales logo welsh-government-logoSupported by the National Lottery logo

© trac Registered charity number / Elusen Gofrestredig: 1085422; Company limited by guarantee / Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014