Mudiad Datblygu Gwerin Cymru yw trac; maen bodoli i hyrwyddo a datblygu traddodiadau cerdd a dawns Cymru yng Nghymru a thu hwnt.
Sefydlwyd trac oherwydd y gred gyffredin yn rinweddau unigryw diwylliannau traddodiadol, ymwybyddiaeth ou perthnasedd parhaus ir presennol ac ysfa i rannur hyn sydd gan draddodiadau cerdd iw cynnig. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae trac yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cylchgrawn rhad ac am ddim ar wefan hon, syn rhestru perfformwyr, digwyddiadau a chysylltiadau.
Mae trac yn Elusen Gofrestredig Rhif 1085422
gweledigaeth trac
Mae celfyddydau traddodiadol Cymru yn gonglfaen cydlyniant cymdeithasol ac yn mynegi ein hanes unigryw, ein heithoedd, ein diwylliant an ffordd o fyw. Mae cerddoriaeth, canu, cerdd dant, dawns a storïa yn rhan on genedigaeth-fraint.
Credwn bod gwerthoedd cynhenid ein dulliau mynegiant traddodiadol yn rhwymau sy'n ein clymu at ein gilydd; her y dyfodol yw adnewyddu'r dulliau mynegiant hyn mewn ffyrdd syn bodoli'r cenedlaethau newydd tran parchur rhai a fu.
Mae trac yn bodoli i feithrin datblygiad y celfyddydau traddodiadol hyn.
cenhadaeth trac
Byddwn yn meithrin datblygiad celfyddydau perfformio traddodiadol Cymru drwy:
- Annog cyfleoedd am addysg, cyfranogiad a chynaliadwyedd wrth drosglwyddor traddodiadau.
- Hyrwyddo cydlyniant a rhyngweithio rhwng grwpiau ac unigolion.
- Adnabod cyfleoedd am ddatblygiad pellach a chynnig datrysiad.
- Eirioli, ar ran y Traddodiad, gyda chyrff cenedlaethol a mudiadau eraill yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.




