A+ R A-

Traddiatoriaid

Digwyddiad 1 y Traddiatoriaid, Amgueddfa'r Glannau, Abertawe 20/5/2012

Dyma nodiadau diwrnod cyntaf y traddiatoriaid.

Pynciau wedi'u trafod oedd angen gŵyl newydd, maerchanta ddeunydd Cymraeg i gynulleidfeydd di Gymraeg, bâs-ddata o diwtoriaid wedi'u cofrestru a eisiau cynnal digwyddiad tebyg yn arbennig dros drefnwyr clybiau gwerin.

 

Mai 20, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Trafodaeth ynghylch y celfyddydau gwerin, a’r rhai sy’n eu meithrin, eu cynnal ac yn eu cyflwyno.

 


Y Diwrnod
Dewisiodd y grŵp siarad am ddau eitem.

Yn naturiol ddigon roedd y grŵp cyntaf o Bontardawe am sôn am eu dyhead am weld gŵyl ym Mhontardawe a fyddai’n adlewyrchu bodolaeth gŵyl yma ers 1978. Roedd pawb yn glir yn ei feddwl bod rhaid i’r ŵyl fod yn dra gwahanol i’r un flaenorol, yn gynhwysol, ac yn ŵyl sy’n dathlu, a bod angen tîm llywio neilltuol er mwyn sicrhau llywodraeth a rheolaeth ariannol dda ynghyd â gweledigaeth artistig clir.

Aeth yr ail grŵp ati i drafod mewn ffordd mwy generig, gan gyfeirio at gerddoriaeth draddodiadol / werin o Gymru, materion yn ymwneud ag iaith, hunaniaeth, marchnata a brandio o safbwynt trefnyddion clybiau gwerin ac hyrwyddwyr cyngherddau. Roedden nhw hefyd yn pwysleisio cynwysoldeb, hunaniaeth a naws am le. Diddorol yw nodi bod y drafodaeth hon wedi’i chynnal yn Gymraeg.

Ar ddechrau’r diwrnod ac ar ddiwedd pob sesiwn, gofynnwyd i’r mynychwyr rannu unrhyw ddeunydd marchnata a chyswllt a oedd yn berthnasol i’w prosiectau eu hun, ac i sicrhau eu bod wedi siarad â phawb a oedd yn bresennol.

Ar ôl cinio cafwyd cyflwyniad gan David a Dilwen Pitt ynghylch prosiect Mari Lwyd trac, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ‘O Wele ni’n Dyfod!’ Cafodd pob mynychwr y cyfle i adeiladu Mari Fach ei hun i fynd gyda nhw.

Yn ystod y prynhawn trafodwyd y materion a amlygwyd, ac fe geisiwyd strategaethau a chynlluniau a fyddai yn eu datrys.

Gofynnwyd i’r mynychwyr a fyddent yn fodlon rhannu eu manylion cyswllt, ac roedd pawb a oedd yn bresennol yn gytun.

 

Themâu
1. Gŵyl ym Mhontardawe
2. Canu Gwerin: caneuon gwerin a chlybiau gwerin
3. Cydnabod cymunedau

 

1. Gŵyl ym Mhontardawe

Themâu
Dyhead am weld gŵyl newydd yn y dre
Dechrau’n fach gyda “Diwrnod Gwerin”.
ELFENNAU I GYNNWYS:
Sesiynau araf
Cyfranogi
Yr Iaith Gymraeg
Addysg
Pobl Ifanc
Iaith lafar

 

PROBLEMAU A PHRYDERON
Diffyg rhywun a fyddai’n cymryd cyfrifoldeb ariannol
Y canfyddiad bod yr ŵyl flaenorol wedi gadael gwaddol negyddol
Deunydd ar y we sy’n hen a ddim yn gyfredol
Dyddiadau’n cyd-daro, a dyblygu

 

Awgrymu’r ffordd ymlaen
Rhywun i weithredu fel brocer gwybodaeth ar draws cymunedau a grwpiau
Cymdeithas y Trefnwyr Gwyliau i ddelio ag hyfforddi tîm newydd, materion etifeddol, ewyllys da a materion ariannol.

 

Awgrymiadau ychwanegol o’r sesiwn lawn
Erbyn hyn mae Gŵyl Haf Pontardawe wedi sefydlu ei hun. Pe bydden ni’n cynnal diwrnod gwerin efallai y gallai fod yn rhan o’r Ŵyl Haf
Defnydd o offerynnau mewn sesiynau araf > Cost a mynediad at offerynnau yn gallu bod yn broblem
Defyddio bocsys pitsa fel bodhran
Caneuon sy’n ymwneud â’r Cymoedd
Prosiect i ysgolion: gosod barddoniaeth Gwenallt i gerddoriaeth

 

2. Canu Gwerin: caneuon gwerin a chlybiau gwerin

 

Themâu
Iaith; cyflwyno deunydd iaith Gymraeg i’r di-Gymraeg
Cymru fel brand Celtaidd
Mynediad at ‘Farchnadoedd Celtaidd’, gwyliau a chyngherddau
Archif Sain Ffagan a’r lyfrgelloedd cenedlaethol

 

Awgrymiadau o’r bore
Lefel mynediad, sesiynau araf ar ddechrau digwyddiadau mewn clybiau gwerin
Hwyluso sesiynau dysgu ar ddechrau digwyddiadau
Coladu deunydd Eingl-Gymreig er mwyn creu parch cydradd
Cerddoriaeth offerynnol yn arwain at ganu
Hyrwyddo’r traddodiad gwrando
A fyddai’n bosibl darparu cofrestr o diwtoriaid/ arweinyddion gweithdy a grŵp?

 

Yn ychwanegol o’r sesiwn lawn:


Yma Mae’n Nghân! : dyma gân i ddilyn ymlaen o Stori Cymru y BBC
10 Alaw Gymreig ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys nodiant a CD
Pwt ar y Bys!
Dw i’n awyddus i weld/ i glywed mwy o ganeuon iaith Saesneg sy’n sôn am y profiad Cymreig
Integreiddio caneuon/barddoniaeth Eingl-Gymreig i’r corpws o ddeunydd Cymreig i greu Archif werin sydd yn wir genedlaethol
Diddordeb mewn dysgu cerddoriaeth ar y glust/y mudiad dysgu yn y dull traddodiadol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

 

3. Cydnabod cymunedau


Themâu
Mae cyllid ynghlwm wrth fodelau llywodraeth leol o bentrefi, trefi a bwrdeisdrefi
Mae rhai cronfeydd ond yn agored i grwpiau a gyfansoddwyd neu grwpiau sy’n gofyn am aelodaeth
Mae rhai clybiau gwerin yn cynnwys unigolion gweithgar, ac mae eu cynulleidfa
ddim am fod yn aelodau o unrhywbeth

 

Awgrymiadau ychwanegol o’r sesiwn lawn:


Meddyliwch a gweithredwch ar raddfa fach ac yn lleol: nid oes angen i ddigwyddiad fod yn or-gymhleth neu’n rhy ddrud.
Mae cymunedau buddiant hefyd yn gymunedau
Mae’r gair ‘cyfansoddwr’ yn ddisgrifiad pen-agored

 

Deilliannau

Roedden ni’n awyddus i weld deilliannau a allai trac eu cyflwyno, gyda chymorth brocera/eirioli neu a allai gael eu cyflwyno gan y mynychwyr heb gymorth.

 

Gŵyl ym Mhontardawe

Gall, ac fe fydd trac yn brocera’r wybodaeth a’r cyfleoedd am hyfforddiant sydd eu hangen. Mae Siambr Fasnach Pontardawe eisoes yn chwarae prif rôl yn yr Ŵyl Haf, ac yn fodlon hyrwyddo diwrnod gwerin fel rhan ohono. Mae Cass Smith eisoes yn maven (arbenigwraig) lleol, yn dosbarthu newyddion ymysg y traddiatoriaid lleol. Fe fydd anawsterau yn codi ynghylch cyllid os y chwilir amdano, ond mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru gronfa neilltuol at ddefnydd gwyliau, a nid yw’r sector werin/draddodiadol yn gwneud cymaint o geisiadau iddi, neu’n gwneud ceisiadau mor uchelgeisiol ag y mae’r sectorau cerdd eraill.

Gall ddefnyddio ffynhonnell leol megis barddoniaeth Gwenallt agor y drysau i gyllid prosiect oddiwrth fudiadau fel Cronfa Treftadaeth y Loteri ac o’r llyfrgelloedd.

Roedd aelodau’r grŵp hwn yn awyddus i fanteisio ar y cyfle o ddefnyddio’r rhwydweithiau a’r cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli i symud y digwyddiad hwn yn ei flaen.

 

Canu Gwerin: caneuon gwerin a chlybiau gwerin

Roedd trac eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ymchwilio’r thema o goladu adnodd Eingl-Gymreig. Rydym y cydnabod bod y corff o waith Cymreig sy’n frodorol i Gymru yn brin. Yr hyn sydd gennym yn y casgliadau sy’n bodoli ac o ganu Phil Tanner, Bertie Smith ac eraill yw corff o waith a ddaeth i Gymru yn gymharol ddiweddar, wedi’r newidiadau a welwyd mewn cymdeithas a symudedd a ddilynodd y chwyldro diwydiannol. Serch hynny, mae’r deunydd hwn wedi’i gymhathu i draddodiad Eingl Gymreig. Efallai bod gwreiddiau ‘The Dark Eyed Sailor’ yng Ngwlad yr Haf neu yng Nghaint ond cyrhaeddodd bro Gŵyr ac mae wedi ffurfio ei berthynas ei hun gyda’r tirlun a gyda’r bobl sy’n byw ynddo.

Mae eisoes gennym awydd gref i dechrau archif arlein o’n holl gerddoriaeth, ein caneuon a chelfyddydau gwerin tebyg ac yn teimlo’n gryf y dylai hyn fod yn rhan o’r archif hwnnw. Roedd y grŵp yn teimlo y dylai ein sefydliadau cenedlaethol fod yn fwy hygyrch i aelodau’r cyhoedd sydd am gael mynediad at ein treftadaeth ddiwylliannol, a bydd trac yn cynnwys yr awydd yma yn ei berthynas strategol gydag, ymysg eraill, y Llyfrgell Genedlaethol, archifau Sain Ffagan a’r corff o waith a gedwir yn ein prifysgolion, gyda’r bwriad o greu adnodd arlein cenedlaethol, ynghyd â gwaith prosiect a dadansoddiadau cerddorol newydd o’n cymanwlad.

‘Rydym eisoes wedi ymrwymo i ddefnyddio WOMEX fel targed; erbyn hynny, bydd y camau i ddatblygu diwydiant cerddoriaeth draddodiadol mewnol wedi’i gosod. I’r perwyl hwn byddwn yn adeiladu ar y gwaith a wnaethpwyd yn BEAM, sef Big Experiment Arbrawf Mawr i ddatblygu ffyrdd priodol o hyfforddi ac achredu cerddorion wrth iddynt geisio ennill bywoliaeth o ddilyn eu galwedigaeth. Fel rhan o hyn ‘rydym wrthi’n datblygu partneriaethau gyda Cherddoriaeth Gymunedol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i lunio rhaglenni hyfforddi tiwtoriaid. Fel rhan o’n portffolio gwasanaethau ein nod yw cynnig, erbyn haf nesaf, cofrestr o diwtoriaid cerdd achrededig
Mae Clera, cymdeithas offerynnau traddodiadol Cymru, eisoes wedi cynhyrchu Pwt ar y Bys, sef casgliad o alawon ynghyd â CD sy’n addas i’w ddefnyddio fel erfyn dysgu mewn sesiynau araf a sesiynau recordio llawn.

Cynlluniwyd ein prosiect Sesiwn yng Nghymru fel cyfres o sesiynau dysgu tywysedig ledled Cymru. ‘Rydym wedi cytuno’n fras i gydweithio gyda Clera i gynnwys cyfres mwy cydlynol o weithdai a digwyddiadau dysgu ar draws Cymru yn ein rhaglen hyfforddi, ac yn croesawu’r cyfle i weithio gyda chlybiau gwerin/nosweithiau meic agored a chlybiau cerddoriaeth acwstig fel rhan o’r llinyn hwnnw.

Mae trac eisoes yn gweithio i sefydlu brand Cymreig mewn cyd-destun cerddoriaeth Geltaidd, ac yn chwilio’n ddiwyd am bartneriaid yn y sectorau Gwyddelig ac Albanaidd i hwyluso hyn.

 

Cydnabod cymunedau

Mae trac yn awyddus i gydweithio gyda chyllidwyr a’r rhai a gyllidir i annog cydnabyddiaeth ABCD – Datblygu Cymunedol a Seilir ar Asedau, sef y ddisgyblaeth o weithio o fewn terfynau’r hyn sydd ar gael, yn hytrach na’r hyn a ddylai fod, fel proses datblygu. Teimlwm, er enghraifft, bod gan gyllidwyr gwell syniad o bwy a beth nad ydynt am gefnogi na’r hyn y maen nhw’n fodlon cefnogi. Mae ‘na jobyn i’w wneud i gydnabod amrywiaeth y Deyrnas Gyfunol. Mae’r polisi llywodraeth sy’n datgan na ddylen ni fod ymhellach na 600 medr i ffwrdd o safle bws yn syniad sy’n gweithio’n dda mewn dinasoedd. Ond yng Nghymru wledig, gall y pellter hwnnw fod, yn aml, yn llai na hyd lôn fferm. ‘Rydym yn awyddus i fynd ar ôl yr amrywiaeth o gyfleoedd y mae’r ddisgyblaeth hon yn cynnig.

 

Ychwanegol

Mae ‘na ysfa i gynnal diwrnod yn arbennig i glybiau gwerin. Cytunwyd bod dros ugain clwb gwerin yn cwrdd yn gyson yng Nghymru, ac nad oes rhwydwaith yn ei lle i’w cynnwys. Roedd y Cyfarwyddwr yn awyddus bod y grŵp hwn mor agored â phosibl fel y gallai’r nosweithiau cerdd cyson mwy llwyddiannus (yn nhermau incwm a mynychiad) sy’n cynnal nosweithiau acwstig a meic agored fynychu a rhannu eu hegwyddorion gyda’r grŵp. Cynigiodd trac gynnal digwyddiad o’r fath fel digwyddiad rhwydweithio a dysgu cydweithiwr i gydweithiwr. Cytunwyd taw yr adeg mwyaf ffafriol yw diwedd mis Medi. Bydd trac yn mynd ati i chwilio am ffynonellau cyllid, lleoliadau a materion yn ymwneud â thrafnidiaeth, ac yn adrodd yn ôl i’r grŵp.

 

Agenda i'r traddodiatoriaid

Dyma ichi argoel i diwrnod y traddodiatoriaid.

Bydd yr agenda yn un agored ichi drafod materion brys i chi.

Dŷn ni'n meddwl y bydde'n dda ichi feddwl am drafod WOMEX 2103, edrych ymlaen, pa fath o weddol a sgîl mae'n mynd i greu. Sut i elwa ar gyfle hon. Beth byddwch chi yn gwneud i godi ymwybyddiaeth, datblygu cerddorion a chynuleidfeydd....

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhyddhau Cronfa Datblygu Diwydiant Cerddoriaeth, fydd yn agored i unigolion, grŵpiau a chyrff iddynt fuddsoddi yn unrhywbeth fydd yn debyg o adeiladu diwydiant cerddoriaeth yngh Nghymru.

Fe aethom ni i Gynhadledd Association of Festival Organisers a chawsom lu o fobol yn gofyn "BLe mae'r rheolwyr ac asiantaethau sydd yn gwerthu cerddoriaeth Cymreig?" Prin iawn y maent. Beth ddylem ni wneud am hynny? Hefyd mae AFO yn cynnal hyrwyddo ar newidiadau i'r gyfraith, rheoli gwirfoddolwyr, ail-gylchu a.y.y.b. A fydech well gennych fynd i sesiynnau rhain neu ddod a nhw i Gymru?

 

agenda.docx

 

 

 

traddodiatoriaid

Dychweliad y Traddiatoriaid!

Daw fforymau’r traddiatoriaid ym mis Mai eleni i weithgareddwyr, hyrwyddwyr a chydlynwyr cwrdd, rhannu a dysgu oddi wrth eu gilydd. Dyma cyfle i chi drafod unrhywbeth â’ch cyd draddiatoriaid. Hyfforddiant. trwyddedu, nawdd, cyd-gynllun ac arbed teithiau, cerddoriaeth masnach deg neu unrhywbeth arall bydd arnoch eisau ei rhannu neu ei ofyn.

Cynhelir un ddigwyddiad undydd ar 20ed o Fai 2012 yn Amgeuddfa’r Glannau Abertawe a’r llall ar 27ain o Fai 2012 yn FeniwCymru, Llandudno. Bydd pob diwrnod yn dechrau am 10:30 y.b. gyda choffi a chofrestri ac fe disgwylir pob dydd cwblhau erbyn 3:30 y.h.

Fe gyhoeddwn ni agenda ar ein wefan erbyn dechrau Mai ond cofiwch, eich diwrnod chi fydd hi. Dŷn ni’n bwriadu defnyddio Technoleg Gofod Agored i sicrhau y siaradwch chi am faterion sydd yn effeithio chi.

Am rhagor o fanylion neu I arbed lle, cyssylltwch â Danny KilBride at Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spambots, Rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

ontrac30webcover

 

trac

 

 

 

 

 


folk development for wales            datblygu traddodiadau gwerin

Arts Council for Wales logo welsh-government-logoSupported by the National Lottery logo

© trac Registered charity number / Elusen Gofrestredig: 1085422; Company limited by guarantee / Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014