Taith Gorwelion, 27-30 Hydref 2013
Yn galw holl fandiau/artistiaid unigol Cymru...
Gwnewch eich cais erbyn 12 Ebrill i WOMEX am sioe arddangos – ac ymgymhwyso i fod yn rhan o daith Gorwelion ym mis Hydref.
Ym mis Hydref 2013, bydd WOMEX yn dod i Gaerdydd – a bydd cannoedd o artistiaid rhyngwladol o’r radd flaenaf yn glanio yng Nghymru. Eleni, am y tro cyntaf (yn amodol ar gyllid), bydd pedwar o’r artistiaid/bandiau arddangos rhyngwladol yn cael eu dethol i deithio theatrau a chanolfannau celfyddydau Cymru – 16 o berfformiadau mewn 16 o leoliadau dros 4 diwrnod, mewn menter dan ofal Creu Cymru/Theatr Mwldan, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru (yn aros am benderfyniad).
Yn cyd-deithio â’r bandiau rhyngwladol, bydd pedwar artist/band o Gymru. Er mwyn ymgymhwyso i gael eich ystyried, rhaid eich bod wedi ceisio am sioe arddangos WOMEX – felly gwnewch yn siŵr y bydd eich cais yn cael ei gyflwyno i WOMEX (http://www.womex.com/realwomex/main.php?id_headings=239&id_realwomex=15) erbyn 12 Ebrill.
Yna dylech hefyd gyflwyno’r wybodaeth ganlynol i Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spambots, Rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. ynghyd â chopi caled (print a disgiau) i Creu Cymru, Blwch Post 242, Aberystwyth, SY23 9AX erbyn 29 Ebrill:
- bywgraffiad (100 o eiriau)
- 3 i 5 trac yn fformat MP3 / CD
- atodiad technegol gan gynnwys offer sain (backline)
- detholiad o adolygiadau yn y wasg neu wybodaeth destunol arall (os yw ar gael)
- dolenni â chynnwys ar-lein cysylltiedig â’r artist (YouTube, Facebook ac yn y blaen)
- offeryniaeth gyflawn
Penderfynir mor fuan ag y bo modd ar ôl i WOMEX gyhoeddi ei restr sioeau arddangos (sy’n debygol o fod tua chanol/diwedd mis Mehefin).
Unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spambots, Rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. / Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spambots, Rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

