Cyfle i ddysgu a chwarae alawon Cymreig - ar gyfer dechreuwyr/canolradd. 6.30 - 7.30 Nosweithiau Llun yn Neuadd Eglwys Llanbadarn.
Clybiau Gwerin
Aberystwyth: gwerinABERfolk
Mae gwerinABERfolk yn cynnal sesiynau acwstig agored bob nos Fawrth o 8.30 yh lawr y grisiau yn Y Bae, Glan y Mor, Aberystwyth, yn agored i bawb sy' am ddod i ganu, chwarae neu wrando.
Ammanford Folk Club
Mae Clwb Gwerin Dyffryn Aman yn cwrdd pob nos Fercher am 8.30 yn y Farmers Arms, Penygroes, Rhydaman. Croeso cynnes i bawb
Barry: Castle Folk Club
Castle Hotel, Jewel Street, Y Bari.
Pob nos Fercher, yn dechrau am 8.30 - Noson i Gantorion (Croeso i bawb - mynediad am ddim) Am fanylion neu i fwcio slot canu, ffoniwch Geoff Peart.
Caerdydd: Clwb Gwerin yr Ail Ddydd Mawrth
Cynhelir Clwb Gwerin yr Ail Ddydd Mawrth yng nghlwb RSS Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TH, bob ail ddydd Mawrth y mis. Os ‘dych chi amddod draw I chwarae dewch yn gynnari’r clwb, gan fod wastad rhestr hir o bobl sydd am berfformio!
Chepstow Acoustic Music Club
Ein nod yw darparu lleoliad parhaol yng Nghasgwent ar gyfer cerddoriaeth acwstig, er mwyn hyrwyddo cerddoriaeth werin, blus, jazz a gwreiddiau a chwaraeir gan gerddorion a chantorion proffesiynol, lled-broffesiynol ac amatur.
Conwy Folk Club
Mae Clwb Gwerin Conwy wedi symud i Glwb y Lleng Brydeinig, Conwy. Mae'r Clwb yn dal i gwrdd ar nos Lun, gyda'r gerddoriaeth yn dechrau tua 8.30 yh
Crumlin Folk Club
Rydym yn cwrdd ar drydydd nos Iau y mis, am 8.30. Mae'r noson ar ffurf sesiwn meic agored lle y gall ymwelwyr sydd am chwarae fwcio slot gydag Ian ar ddechrau'r noson.
Cwmaman: The Acoustic Lounge
Cynhelir y Lolfa Acwsig bob nos Iau yn Institiwt Cwmaman, Alice Place, Cwmaman, Aberdâr, Morgannwg Ganol CF44 6NY. Mae'r Lolfa Acwstig wedi bod yn hyrwyddo cyngherddau nos Iau dros y chwe blynedd diwethaf.
Fishguard Folk Club
Dewch i'r Royal Oak, Y Sgwâr, Abergwaun, bob nos Fawrth am sesiwn fywiog o gerddoriaeth, canu ac efallai hyd yn oed ambell i stori a dawnsio.
Gower: The Halfpenny Folk Club
Rydyn ni'n cwrdd pob nos Sul am 8.30 yn nhafarn y Greyhound, Llanrhidian, Gwyr.
Halkyn: Blue Bell Inn, Halkyn, NE Wales
Yr ail ddydd Iau bob mis yn Nhafarn y Blue Bell yn Halkyn. Mae mynediad yn rhad ac am ddim. Er nad oes rheol bendant, yn gyffredinol mae cerddoriaeth werin yn Nafarn y Blue Bell yn draddodiadol, ac yn ffocysu'n bennaf ar ganu gwerin Celtaidd/Prydeinig.
Holyhead: Clybod - Canolfan Ucheldre
'Llwyfan' distaw i berfformio a gwrando (h.y. nid sesiwn) ar gyfar unrhyw allu, ac unrhyw fath o gerddoriaeth sydd ddim angen trydan.
Islwyn Acoustic Guitar Club
Sefydlwyd Clwb Gitar Acwstig Islwyn yn Ionawr 2002, a dyma unig leoliad Cymru sy'n arbenigo yn y gitar acwstig. Er gwaetha'r ffocws ar y gitar, mae'r clwb yn cynnal digwyddiadau amrywiol -
Llanarthne
Clwb Gwerin Acwstig yng ngwesty'r Golden Grove, pob trydydd nos Wener yn y mis.
Llandeilo Acoustic
Mae Acwstig Llandeilo yn trefnu rhwng pedair a chwe sioe yn flynyddol, gan gyflwyno'r gorau o fyd cerddoriaeth werin, jazz, blus a gwreiddiau.
Llanfyllin Workhouse Folk Club
Dewch i Dloty Llanfyllin ar 3ydd Nos Wener y mis, gan ddechrau ar Fediír 8fed, i brofi cymysgedd o sesiynau traddodiadol, dosbarthiadau dawnsio a bandiau byw.
Llantrisant Folk Club
Pob nos Fercher am 8.30 yng Ngwesty'r Windsor, Heol Llantrisant, Pontyclun CF72 9DQ
Llanilltud Fawr: Clwb Acwstig y 3ydd dydd Llyn
Ateb Llanilltud Fawril y gredd sŵn....... mae Clwb Acwstig y 3ydd dydd Llun yn ymgasgliad anffurfiol, ar hap, o berfformwyr acwstig a’r rhai sy’n caru cerddoriaeth. Mae’r clwb yn cyfarfod am 8yh yn yr ystafell ddigwyddiadau lan llofft yn y Boverton Castle. Dim PA/ uchel seinyddion – dim ond cerddoriaeth go-iawn. Croeso I bawb!
Newport Folk Club
'Dyn ni'n cwrdd yn y Newport Fugitives Athletic Club, ger High Cross Road, Casnewydd NP10 9AD, beth bynnag yw'r tywydd.
Newport: Lyceum Folk Club
The Lyceum Folk Club, Newport meets every Thursday in the Function Room at Lyceum Tavern, Malpas Road, Newport.
Offa Events
Rydym yn trefnu cyngherddau cerddoriaeth traddodiadol, yn bennaf cerddoriaeth y wledydd Geltaidd - yn nhafarn y Last Inn, Hengoed, ger Croesoswallt.
Pontardawe Acoustic Music Club
Rydyn ni'n cwrdd pob nos Fercher yn Y Gwachel/Pontardawe Inn, Stryd Herbert, Pontardawe, ger Abertawe.
Pontypridd Acoustic Club
Mae'r clwb acwstig yn cwrdd ar bob nos Fercher olaf yn y mis am 8.30 yn y Globetrotters Bar, Stryd y Bont, Pontypridd CF37 4PE.
Rhyl Folk Club
Pob nos Wener am 8.30 yng Nglwb y RAFA, Stryd Windsor, Rhyl LL18 1BW
Caerdydd: Clwb Cerddoriaeth Acwstig Glan yr Afon
Mae clwb cerddoriaeth acwstig Glan yr Afon yn cwrdd yng Nghanolfan Datblygu’r Gymuned, De Glan yr Afon yng Nghaerdydd. Cynhelir y sesiwn nesaf ar nos Fawrth, Mai 1af, 2012 ac yna ar bob nos Fawrth gyntaf y mis, 7.30 - 10:30 yh
Rumney Folk Club, Cardiff
Mae Clwb Gwerin Rhymni'n cwrdd unwaith y mis yn neuadd eglwys St. Augustine, Rhodfa Whitehall, Caerdydd. Yma, mae pawb yn mwynhau gwledd o gerddoriaeth werin/acwstig amrywiol, ac mae croeso i gerddorion berfformio, waeth beth yw eu gallu cerddorol neu oedran.
Ruthin Allstyles Music Club
Cerddoriaeth fyw ynghanol Gogledd Cymru! Os 'dych chi'n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth fyw mewn awyrgylch glyd, dewch i ymuno â ni unrhyw nos Iau yn y Castle Hotel, St Peters Square, Ruthin.
Wrexham Folk and Acoustic Club
Mae Clwb Gwerin ac Acwstig Wrecsam yn cwrdd bob yn ail ddydd Iau yn y Nags Head, Wrecsam, gyda amrywiaeth o nosweithiau i gantorion, ac artistiaid gwadd.
folk development for wales datblygu traddodiadau gwerin

![]()
© trac Registered charity number / Elusen Gofrestredig: 1085422; Company limited by guarantee / Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014



