Mae stori yn llawer mwy na'i naratif, a dyna dw i'n ceisio ei ddal, i'w rannu gyda'r gynulleidfa. Dw i'n adrodd storïau sy'n addas i'r digwyddiad, ond wastad wrth fy modd o gael cyfle i adrodd fy hoff storïau o'm repertoire, storïau sy'n aml wedi'u hail wampio fel eu bod yn amrywio'n sylweddol o'r gwreiddiol.
Chwedleuwyr
Anne Lister
Perfformiadau o straeon a chaneuon mytholegol, chwedlau a chymeriadau hanesyddol, gyda thro bach cyfoes yn y cynffon. Gweithdai i'r rheini syí am ail-afael yn hud a lledrith storiau.
Cath Little
Mae Cath yn storiwraig a chantores baledi, ac yn cael ei hysbrydoli gan ei hetifeddiaeth Gwyddelig a Seisnig a'i chartre yma yng Nghymru. Mae'n adrodd storiau ac yn canu caneuon am dreigl y flwyddyn, i ddathlu'r ddaear a'i dymhorau.
Daniel Morden
Cafodd y storïwr a'r awdur Daniel Morden, sy' wedi ennill gwobrau am ei waith, ei eni yn, ac mae'n dal i fyw yn Sir Fynwy. Mae ei repertoire yn amrywio o chwedlau Cymreig i fythau Groegaidd. Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau yn cynnwys chwedlau gwerin Cymru. Yn 2007,
Eirwen Malin
Eirwen Malin is a Storyteller, Singer and Songwriter who has taken her stories and songs all over the world from her home near Cardiff in South Wales. Festival appearances in Britain, USA, Canada and Australia have gained her a reputation for high quality performance. Whether it be epic stories from the Welsh tradition (Eirwen tells stories in English and Welsh, which she has spoken since childhood), sensitive folk songs or humorous ditties, there will be something for everyone to enjoy.
Esyllt Harker
Perfformiadau: Chwedl a Chân - cyflwyniadau swynol, ar gyfer unrhyw achlysur. Tafod y Dychymyg - Cyfle i ddysgwyr ddarganfod yr iaith drwy gyfrwng lliwgar y dychymyg.
Fiona Collins
Chwedleuwraig yw Fiona Collins sy'n adrodd straeon traddodiadol o bob rhan o'r byd, yn arbennig straeon y Mabinogi a straeon am ferched a gwragedd cryfion.
Guto Dafis
Mae chwedleuwr a chanwr Guto Dafis yn adrodd straeon y goruwchnaturiol oír gwledydd Celtaidd ac o weddill Ewrop gydag egni, hiwmor a synnwyr rhyfeddod.
Tunes and Tales
Chwedleua cerddorol i blant a theuluoedd. Storiau traddodiadol rhyngweithiol iawn, gydag offerynnau, pypedau, celfi llwyfan, canu a gemau.
Vagabondi Puppets
Pypedau a storiau. Dwy sioe deithiol - 'Carreg Ateb' wedi'i ysbrydoli gan fytholeg mynyddoedd Cymru, a berfformir yn y Gymraeg neu yn Saesneg, gyda cherddoriaeth gefndir gan y deuawd gwerin Cymraeg 'Canol'. Hefyd 'Straeon yr Anifeiliad', casgliad o storiau'r byd, i gyfeiliant cerddoriaeth-y-byd hyfryd.
folk development for wales datblygu traddodiadau gwerin

![]()
© trac Registered charity number / Elusen Gofrestredig: 1085422; Company limited by guarantee / Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014



