
‘Ysgol werin’ Cymru yw'r Arbrawf Mawr (neu 'BEAM' fel y dwedon ni: Big Experiment/Arbrawf Mawr) - ffordd fendigedig i dreulio penwythnos hir mewn lleoliad hyfryd, yn llawn dop gyda cherddoriaeth a dawns. Tridiau a fydd yn byrlymu gyda 31 awr o hyfforddiant a gweithgareddau, gan gynnwys grwpiau offerynnol cymysg, canu, dawnsio a dawnsio’r glocsen, gweithdai blasu, darlithoedd, dosbarthiadau meistr, cyngherddau, perfformiadau a sesiynau.
Mae’n awyrgylch wych i ddysgu cyfoeth o ganeuon ac alawon newydd, i wella’ch techneg, i arbrofi gydag offerynnau anghyfarwydd (ac anarferol), i brofi gwahanol fathau o ganeuon a dawnsiau ac i gwrdd â ffrindiau newydd ar yr un pryd.
Bydd cyngerdd tiwtoriaid, twmpath dawns, sesiynau (gyda chaneuon hefyd) a chyfle i berfformio yn y Noson Lawen. Bydd y digwyddiadau gyda’r nos yn agored i’r cyhoedd. Mae croeso cynnes iawn i chi, p’un ai ‘rydych yn siarad Cymraeg neu beidio. Bydd ein cyfieithydd preswyl, Martin Davies, wrth law i gynnig help i ddysgwyr a’r di-Gymraeg er mwyn iddynt gael mynediad at bopeth. Darperir cyfieithu ar y pryd yn ôl yr angen, a help i fynd ati i ganu caneuon Cymraeg.
Yn BEAM 2012 byddwn, am y tro cyntaf, yn rhoi sylw manwl i ganeuon gwerin, megis y rhai a gasglwyd yn ardal Sir Benfro (lleoliad ein cwrs eleni), ac yn canolbwyntio ar y ffurf unigryw Gymreig honno o ganu, sef Cerdd Dant.
Hefyd yn newydd eleni mae’r prisiau gostyngol i deuluoedd, a gweithdai prynhawn arbennig ar gyfer ein haelodau iau.
Bydd yr Arbrawf Mawr yn dechrau ar nos Iau wrth i chi gofrestru, setlo i mewn, cwrdd â’ch tiwtoriaid a mynd ati i greu cerddoriaeth anfurfiol. Daw’r digwydiad i ben am 4.00 ar y dydd Sul.
Beth maen nhw'n dweud ...
“Roedd yr awyrgylch yn ffantastic”
“Awyrgylch cyfforddus i ofyn cwestiynnau, arbrofi, rhannu syniadau, ayyb, a chyfle i wneud cysylltiad â cherddorion eraill”
“Digon o gyfle i ddefnyddio fy llais a chynnal sesiwn yn y Gymraeg”
“Teimlo fel taswn i wedi dechrau cloddio gwythie cyfoethog iawn ac isio aros i ddal ati gloddio”
Cwrs y bore: chwarae, canu neu ddawnsio
Bydd dosbarthiadau’r bore yn cynnwys cwrs chwe gwers – cewch ddewis rhwng dosbarth offerynnol (mewn grwpiau ensemble o dri lefel gallu), Cerdd Dant/Plygain, Canu Gwerin neu Ddawns y Glocsen. Cyfyngir ar y niferoedd ymhob grŵp er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn yr hyfforddiant gorau.
Gweithdai’r prynhawn, agored i'r cyhoedd
Mae arlwy’r prynhawn yn cynnwys ystod o weithdai ‘annibynnol’, sydd wedi’u teilwra i wneud yn siwr nad ydych yn colli m’as. Mae’r gweithdai hyn yn rhad ac am ddim i’r rhai sydd eisoes wedi bwcio lle ar yr Arbrawf Mawr, ond os nad ‘dych chi’n rhan ohono, peidiwch a cholli cyfle euraidd! Mae croeso i chi ymuno â ni rhwng 3.00 a 5.00; dewiswch un gweithgaredd o bob grŵp; codir £10/£7 am y prynhawn cyfan.
Does dim angen bwcio.
Dydd Gwener 3.00
1 Sawrwch pob nodyn
Bydd Bob Evans yn dangos sut y gallwch werthfawrogi alaw yn well drwy ei chwarae’n bwyllog, heb hastu.
2 Caneuon Penfro
Lynne Denman yn cyflwyno ambell gân leol a godwyd o archif Sain Ffagan
3 Dwylo ar y Delyn
Eich cyfle i chwarae un o delynau cwmni Telynau Teifi, gyda Susan Berry
4 Meddygfa Busnes Cerdd
Paul Westwell, cynrychiolydd Gwerin, Gwreiddiau a Thraddodiadol Undeb y Cerddorion a Hefin Jones o’r Welsh Music Foundation yn sôn am yr hyn y gall yr MU a’r WMF wneud ar eich rhan chi.
Dydd Gwener 4.10
5 Ffandangos i’r ffidlwyr
Christine Cooper (Fernhill a chyn Bencampwraig Ffidl Cymru) yn cynnal gweithdy arbennig i ffidlwyr.
6 Cadw’ch llais yn iach
Bydd Celia Webb o Singplicity yn trafod sut i gael y gorau o’ch llais
7 Marchnata’ch gweithgareddau gwerin
Bydd yr arbenigwr marchnata Jim Blythe, a rheolwr Calan, Huw Williams, yn arwain sesiwn sy’n addas ar gyfer bandiau, clybiau gwerin neu wyliau.
8 Dawnsio cymdeithasol
Cyfle i ddawnsio – dawnsiau cymdeithasol Cymreig yng nghwmni Eiry Palfrey
Dydd Sadwrn 3.00
9 Chwarae i ddawnswyr
Neil Browning yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen os am chwarae’n dda wrth gyfeilio i ddawnswyr.
10 Rhowch dro ar ddawns y glocsen
Huw Williams yn cynnal sesiwn ar gyfer dechreuwyr pur
11 Plygain
Cyfle i ganu carolau Plygain traddodiadol mewn harmoni persain, tri-llais
12 Profwch bwt ar y pibau
Croeso i ddechreuwyr pur neu chwareuwyr canolradd. Gydag Antwn Owen-Hicks
Dydd Sadwrn 4.10
13 Codi’r clawr ar y gerddoriaeth.
Bernard KilBride yn dangos sut y gallwch rhoi bywyd newydd i hen alawon. Addas at bob offeryn.
14 Dwylo ar y Delyn
Mynnwch dro ar delyn yng nghwmni Bethan Nia. Croeso i ddechreuwyr pur.
15 Mari Lwyd – caneuon a rhagor
Angharad Jenkins yn sôn am brosiect Mari Lwyd trac– y caneuon, y traddodiadau a’r pac-fflat!
16 Y Delyn Deires
Robin Huw Bowen yn cynnal dosbarth meistr ar offeryn eiconig Cymru.
Nosweithiau - agored i'r cyhoedd
Nos Wener 2 Tachwedd: Cyngerdd arbennig!
Gwledd Werin
Stephen Rees (Ar Log, Crasdant) ar acordion, ffidil, a phibgorn
Lynne Denman a Stacey Blythe (Ffynnon) gyda chaneuon â chyfeiliant ar y delyn a'r acordion
Neil Browning (Cajuns Denbo, Never Mind The Bocs) maestro'r melodeon
Christine Cooper (Fernhill) ffidilwraig penigamp a chwedleuwraig
Arfon Gwilym & Sioned Webb: caneuon traddodiadol a Cherdd Dant
Huw Williams, clocsiwr penigamp
Dewch i gymryd rhan mewn dathliad blynyddol o draddodiadau Cymru.
Grandewch ar oreuon canu gwerin yng nghanolfan newydd Stagbwll fel rhan o benwythnos cyd-chwarae mwyaf Cymru!
Canolfan Stagbwll, Penfro SA71 5DQ
Tocynnau ar y drws, £10/£7. Croeso i bawb
Cyngerdd am 8.00
Sesiwn wedyn tan hwyr - dewch â'ch offerynnau â'ch lleisiau
Mwy o wybodaeth: cysylltwch â
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spambots, Rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Yn rhan o'r Arbrawf Mawr 2012, ond mae croeso i bawb
Nos Sadwrn 3 Tachwedd
Twmpath Dawns a Sesiwn
Canolfan Stagbwll, Penfro SA71 5DQ
Tocynnau ar y drws, £10/£7. Croeso i bawb
Dawnsio am 8.00
Sesiwn wedyn tan hwyr - dewch â'ch offerynnau â'ch lleisiau

Dyma'r tiwtoriaid
Stephen Rees - Offerynnau, lefel uwch
Mae Stephen yn chwarae’r ffidl, yr acordion a’r chwiban-oglau; mae’n un o sylfaenwyr trac a Clera, ac yn aelod o’r bandiau eiconig Crasdant ac Ar Log. Mae ei dalentau fel athro wedi bod yn ysbrydoliaeth i chwaraewyr lefel canolradd yn Arbrofion Mawr y gorffennol.
Eleni, yn ogystal â thiwtora’r grŵp Uwch, bydd Stephen yn dysgu’r cwrs cyfan – sef pob lefel offerynnol, y cantorion a’r clocswyr gyda’i gilydd – am awr bob prynhawn. Dros y blynyddoedd diwethaf, ‘rydym wedi croesawu tiwtoriaid lefel Uwch gwadd o’r Alban, o’r Iwerddon ac o Loegr, felly tro tiwtor o Gymru yw hi eleni.
Neil Browning - Offerynnau, lefel canolradd
Unwaith eto mae BEAM yn croesawu’r aml-offerynnwr Neil Browning. Mae’n adnabyddus yng Ngogledd Cymru fel athro cerdd ac am arwain clybiau alawon a sesiynau, a fel aelod o Never Mind The Bocs a Cajuns Denbo.
Christine Cooper - Offerynnau, lefel canolradd
Dyma’r tro cyntaf i ni groesawu Christine, sy’n chwarae’r ffidl a’r banjo ac yn storïa, i’r Arbrawf Mawr. Mae hi’n gyn-enillydd y wobr Ffidlwr Celtaidd Cymru, ac yn ymddangos yn gyson gyda Ceri Rhys Matthews a Fernhill.
Stacey Blythe - Offerynnau, lefel sylfaen
Swynodd Stacey ei dosbarth lefel Sylfaen yn yr Arbrawf Mawr y llynedd, felly mae hi wedi dychwelyd unwaith eto i gyflwyno, mewn steil syml ac uniongyrchol, rhagor o alawon i’r chwaraewyr llai profiadol. Mae Stacey yn chwarae’r acordion a’r delyn; yn ogystal mae hi’n canu ac yn cyfansoddi caneuon ac, yng nghwmni Lynne, yn aelod o Ffynnon.
Arfon Gwilym a Sioned Rees - Cerdd Dant / Plygain
Bydd Arfon, ein harbenigwr preswyl yn nhraddodiadau canu Cymru (gyda chymorth parod y delynores, Sioned Webb) yn archwilio’n ddwysach i Gerdd Dant. Yn fawr ei barch fel canwr ac athro, mae Arfon hefyd yn awdur, yn gyhoeddwr ac yn ffidlwr.
Lynne Denman - Canu Gwerin
Mae gan Lynne un o’r lleisiau mwyaf nodweddiadol sydd i’w clywed yng Nghymru heddiw. Yn diwtor newydd i BEAM, mae hi’n canu gyda Ffynnon ac yn y gorffennol wedi cynnal gweithdai i trac yn amlygu ‘caneuon coll Sir Benfro’.
Huw Williams - Dawns y Glocsen
Mae gan Huw, y pencampwr dawns y glocsen, ffordd o addysgu sy’n siwr o ddadrinio cymhleth-dodau dawns y glocsen ac arwain at ganlyniadau rhyfeddol. Mae ei gymysgedd o hiwmor a phrofiad yn gwneud ei weithdai yn hygyrch ac yn hwyl.
Y lleoliad eleni
Wedi dwy flynedd yn y gogledd, mae BEAM 2012 yn symud i dde Cymru i Sir Benfro, ac i Ganolfan Stagbwll, sydd newydd ei hailwampio. Mae’r Ganolfan ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae'r ystafelloedd sengl ac i ddau i gyd wedi mynd, ond mae ystafalloedd i rannu (3 , 4, neu 6 o bobl) ar gael o hyd.
Mae’r cyfradd preswyl yn cynnwys eich dosbarthiadau, llety a phob pryd o fwyd, ac mae cegin y Ganolfan yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn defnyddio cynhwysion ffres a dyfir yn lleol.
Mae pris gostyngol ar gael i bawb sy’ mewn addysg llawn amser, sy’n derbyn budd-daliadau neu bensiwn y wladwriaeth. (Os gwelwch chi’n dda, a wnewch chi amgáu tystiolaeth gyda’ch ffurflen fwcio os nad ydych wedi gwneud hynny yn y gorffennol).
Cynigir cyfradd di-breswyl i’r rhai sy’n byw yn lleol neu sydd am aros mewn gwesty/gwely a brecwast yn yr ardal. Mae croeso ar y safle i gerbydau gwersylla, ac mae maes pebyll yma hefyd at defnydd y gwersyllwyr dewr hynny yn eich mysg (cofiwch taw mis Tachwedd fydd hi!)
Rhannu ystafell (3-6) Di-breswyl
Pris llawn £160 £130
Gostyngiad £130 £110
Tocyn teulu (2 oedolyn + 2 plant) £440
Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen bwcio BEAM 2012
grandewch ar Arbrawf 2010
Roedd rhaglen arbennig ar yr Arbrawf Mawr 2010 yng ngyfres Stiwdio ar Radio Cymru. Gwrandewch yma ar gyfweliadau a seinluniau a recordiwyd gan Daniel Jenkins-Jones yn ystod y ddigwyddiad - lawrlwytho'r mp3




