hafan 
 newyddion 
 beth ydi trac
      pwy ydy pwy
      polisïau
 dawnsio
 cerddorion
 chwedleuwyr
 cylchgrawn ontrac
 yr arbrawf mawr
 datganiad gregynog
 gwneuthurwyr offerynnau
 sesiynau / canu
 clybiau gwerin
 gwyliau
 dolenni
 
 english 
 trac
 Blwch Post 428, 
 Caerdydd,  CF11 1DP
 trac@trac-cymru.org
 029 20 318863
 07811 955 592
 

 

beth ydi trac  

dyfodol y traddodiad a thraddodiad y dyfodol

Sefydliad Ddatblygu Gwerin Cymru yw trac; ei swyddogaeth yw hyrwyddo a datblygu traddodiadau cerdd a dawns Cymru - o fewn Cymru a'r tu hwnt.

Daeth trac i fod drwy argyhoeddiad amryw o bobl ynglyn â natur unigryw diwylliannu traddodiadol, ymwybyddiaeth o'u perthnasedd parhaus i'r cyfnod presennol, ac awydd angerddol i rannu'r hyn sydd gan draddodiadau cerddorol i'w cynnig. Gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae trac yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cylchgrawn am ddim, a gwefan yn rhestru perfformwyr, digwyddiadau a chysylltiadau.

Mae trac yn Elusen Gofrestredig, Rhif 1085422

Gweledigaeth trac

Mae celfyddydau traddodiadol Cymru yn un o gonglfeini cydlyniad cymdeithasol ac yn fynegiant o’n hanes, ieithoedd, diwylliant a ffordd o fyw nodweddiadol. Mae cerddoriaeth, canu, cerdd dant, dawns a storďa’n rhan o’n genedigaeth-fraint.

Credwn bod gwerthoedd cynhenid ein ffyrdd o fynegiant traddodiadol yn ein cysylltu gyda’n gilydd; ein her at y dyfodol yw adnewyddu’r ffyrdd yma o fynegiant mewn dulliau sydd yn mynd i fodloni’r cenedlaethau newydd tra’n parchu’r rhai a fu.

Mae trac yn bodoli er mwyn meithrin datblygiad y celfyddydau traddodiadol hyn.

Cenhadaeth trac

Byddwn yn meithrin datblygiad celfyddydau perfformio traddodiadol Cymru drwy:

  • Annog cyfleoedd am addysg, cyfranogaeth a chynaladwyedd wrth drosglwyddo’r traddodiad.
  • Hyrwyddo cydlyniad a rhyngweithio rhwng grwpiau ac unigolion.
  • Adnabod meusydd o ddatblygiad pellach a chynnig atebion.
  • Eirioli ar ran y Traddodiad gyda chyrff cyhoeddus a mudiadau eraill ar lefel leol, genedlaethol a ryngwladol.

newyddion | beth ydi trac | dawnsio | cerddorion | chwedleuwyr | cylchgrawn ontrac
  yr arbrawf mawr | datganiad gregynog | sesiynau / canu | clybiau gwerin | gwyliau | cysylltiadau

Powered by WebRing.

© trac 2010